rTenders · UK tenders

RHOI: Ymgyrch Marchnata Integredig, Cyfathrebu a Newid Ymddygiad / Integrated Marketing, Communications and Behaviour Change Campaign

Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri (Wales) · value £35,000 · tender bids by 7 December 2026

Buyer
Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri
Region
Wales
Estimated value
£35,000
Published
5 November 2026
Bid deadline
7 December 2026
Procedure
Below threshold - open competition
CPV
79000000

Description

Mae RHOI wedi cael ei ysbrydoli gan lwyddiant CopenPay ac mae'n rhan o'r dull rhyngwladol ehangach DestinationPay. Mae'r egwyddor sylfaenol yn syml: anogir pobl i wneud rhywbeth cadarnhaol ar gyfer y lleoedd maen nhw'n ymweld â nhw ac, yn gyfnewid, derbyn gwobr gan fusnes neu sefydliad sy'n cymryd rhan. Bydd y rhaglen yn canolbwyntio i ddechrau ar Y Bala a Betws-y-Coed fel ardaloedd peilot, gyda'r nod o dyfu ar draws rhanbarth ehangach Eryri dros amser. Bydd gweithgareddau'n cael eu darparu gan amrywiaeth o sefydliadau partner, grwpiau cymunedol, busnesau a sefydliadau eraill. Bydd busnesau sy'n cymryd rhan yn darparu gwobrau i bobl sy'n cwblhau gweithgareddau cymwys. Mae enghreifftiau o'r mathau o ymddygiad y gallai RHOI eu hannog yn cynnwys dewis trafnidiaeth gyhoeddus, gwirfoddoli, cymryd rhan mewn gweithgareddau casglu sbwriel neu gadwraeth, cefnogi gweithgareddau diwylliannol lleol, dysgu neu ddefnyddio'r Gymraeg, a chymryd rhan mewn gweithgareddau sy'n cyfrannu'n gadarnhaol at gymunedau ac amgylchedd yr ardal. Nid yw'r rhaglen wedi'i bwriadu i weithredu fel cynllun disgownt na theyrngarwch confensiynol. Rhoddir pwyslais ar annog pobl i wneud dewisiadau cadarnhaol a chymryd rhan mewn gweithgareddau ystyrlon, gyda gwobrau'n darparu cymhelliant ychwanegol. Felly, dylai'r ymgyrch ganolbwyntio ar newid ymddygiad yn ogystal â chodi ymwybyddiaeth ac annog pobl i lawrlwytho’r ap. Ffordd ddefnyddiol o feddwl am daith y defnyddiwr arfaethedig yw: GWELD → DEALL → YMUNO → GWEITHREDU → DERBYN GWOBR → RHANNU → AILADRODD Disgwylir i'r cyflenwr llwyddiannus ddatblygu'r daith hon ymhellach a nodi'r cyfathrebiadau, yr ymyriadau ymddygiadol a'r gweithgaredd marchnata sydd eu hangen ym mhob cam. // Eryri National Park Authority is seeking to appoint an experienced marketing and communications supplier to develop and deliver an integrated bilingual Welsh/English marketing and behaviour-change campaign for RHOI, a new initiative designed to encourage visitors and local people to t…

Official notice